Nofel am berthynas anarferol rhwng ffoadur a phensiynwraig mewn byd cyfarwydd sydd eto'n sinistr. Hen wraig sy'n byw ar ei phen ei hun yw Nesta Bowen, un annibynnol a hunanfeddiannol. Daw dyn ifanc i'w bywyd, sef ei 'milwr bychan'. Mae'n byw yn y goedwig y tu hwnt i'w gardd, ac yn raddol caiff ei groesawu i'w chartref, a dadlennir datblygiad eu perthynas yn y nofel.