Hanes difyr, dwys a doniol sy'n crisialu cyfraniad mudiad Cymraeg ei iaith sydd â 280 o ganghennau a 7,000 o aelodau. Dyma gofnod o fudiad sydd wedi cynnig cyfleoedd i fenywod gymdeithasu, arfer doniau, ymgyrchu a chodi arian er budd elusennau yng Nghymru a thu hwnt.