Beirniad cystadleuaeth y Stori Fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol yw Myfi. Wrth dafoli gwaith y cystadleuwyr mae hi'n myfyrio ar ei bywyd ei hun: ar ei magwraeth ym Mhen Llŷn, ei gwaith academaidd, ar garwriaethau a dod yn fam.
‘Dyma waith sy’n pefrio. Mae strwythur y nofel hon yn drawiadol a chlyfar a’i chynnwys yn hollol Gymreig ac eisteddfodol!’ – Ion Thomas
‘Gwreiddiol a gonest, doniol a deifiol.’ – Lleucu Roberts
‘Deuwn i adnabod unigolyn sensitif, hunanfeirniadol sy’n teimlo pethau i’r byw.’ – Menna Baines
. Daeth yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 gyda’r nofel hon.