Cyfrol a gyhoeddwyd i ddathlu pen-blwydd Menna Elfyn yn 60 oed. Mae'r casgliad yn cynnig detholiad cynhwysfawr o waith y bardd, sydd wedi chwarae rhan anhepgor yn natblygiad barddoniaeth ers dros 35 mlynedd a mwy. Mae'r gyfrol yn cynnwys 170 o gerddi, rhagair gan y golygydd Elin ap Hywel a rhagymadrodd cynhwysfawr gan Yr Athro M. Wynn Thomas.