Llyfr yn ymdrin â'r ddelwedd o Gymru mewn ystod eang o nofelau Cymraeg a gyhoeddwyd rhwng 1960 a 1990. Mae llawer o'r nofelau yn nofelau hanes ac eraill yn nofelau cyfoes. Mae'r ddelwedd yn ymwneud â'r priodoleddau hynny - megis iaith, tiriogaeth, crefydd, hanes a diwylliant - a gyfrifir fel arfer yn rhai cenedlaethol.