Y mwyaf gwreiddiol a thoreithiog o'n beirniaid llenyddol yw R. M. Jones, a ddisgrifiwyd yn ddiweddar fel yr unig feirniad o statws Ewropeaidd sy'n ysgrifennu yn Gymraeg. Er ehangder a gwreiddioldeb gyrfa lenyddol ac academaidd Bobi Jones, prin fu'r sylw a roddwyd i'w waith ar lefel genedlaethol na rhyngwladol. Ymgais yw'r gyfrol hon, felly, i unioni'r cam.