Mae Mali'n deffro yn y nos gan wybod bod rhywbeth o'i le - rhywbeth mawr. Mae'r goleudy y tu allan i'w ffenest yn dywyll fel y fagddu. Heb ei belydryn, sut gall ei thad, sydd allan yn pysgota ar y môr tywyll yn ei gwch bach coch, ddod yn ôl i'r harbwr yn ddiogel? Rhaid i Mali ailgynnau'r golau ar unwaith!