Pysgotwr yw tad Mali, ac mae'n creu cwch bach iddi ac yn ei dysgu sut i'w hwylio. Mewn dim o dro mae Mali a'r cwch allan yn y tonnau, gyda haid o ddolffiniaid yn cadw cwmni iddi. Mae Mali'n helpu un dolffin bach wrth iddo fynd yn sownd mewn rhwyd. Ond pwy fydd yn helpu Mali pan fydd hi mewn trafferth ar y môr?