Dechreuodd y grwp Maharishi yn wreiddiol wrth i Rich Durrell , Euron Jones a Gwilym Davies gyfarfod yn y Coleg ym Mangor yn 1998.
Bu Rhodri (Pwdin) Evans yn chwarae’r allweddellau am gyfnod o tua dwy flynedd, ac mae’r band bellach ar eu pedwerydd drymar mewn 7 mlynedd sef Danny Morrison. Gadawodd y drymar gwreiddiol Eurig Jones yn fuan ar ôl sefydlu’r band a daeth Rhydwen Mitchell i gymryd ei le. Yn ystod y cyfnod hwn gyda Mitch recordiwyd dau albwm rhwng 1998 a 1999. Y cyntaf oedd Stafell Llawn Mwg a gafodd yr enw ar ôl gig myglyd ym Mhorthmadog pan lanwodd yr ystafell gyda mwg gwyn wedi i’r peiriant mwg sticio gan achosi panic yn y gynulleidfa.
Recordiwyd a chynhyrchwyd Stafell Llawn Mwg gyda Les Morrison yn stiwdio SAIN
, Llandwrog. Yn sgil yr albwm enillodd Maharishi wobr ‘Band y Flwyddyn’ yng ngwobrau roc a pop Radio Cymru 2000.
Enillodd y gan ‘Ty ar y Mynydd’ oddi ar yr albwm brif wobr ‘Mawredd Mawr’ Radio Cymru yn 2003.
Erbyn recordio’r ail albwm roedd Maharishi yn enw cyfarwydd yn y sin roc Gymraeg. Ond wrth i amser yn y coleg ddod i derfyn, gadawodd Mitch y drymar ynghanol recordio’r ail albwm ‘ Merry-go-round’. Recordiwyd hon mewn stiwdio newydd yn Waunfawr ger Caernarfon gyda Les Morrison a Sam Durrant.
Yn sgil y caneuon Saesneg ar ‘Merry-go-round’ cafodd Maharishi eu noddi gan y cwmni dillad mynydda ‘Stone Monkey’ a thrwy’r cwmni hwn cawsant gigs yn Llundain.
Wrth gigio a hyrwyddo’r ail albwm, ymunodd y drymiwr roc caled Dion Hughes o Fethesda i’r band. Yn ystod y cyfnod yma symudodd y band lawr i Gaerdydd a recordiwyd yr EP ‘Keep your ears to the Ground’ yn ‘Le Mons’ Casnewydd ac yn stiwdio SAIN
, Llandwrog gyda’r cynhyrchydd Mark Roberts gynt o Catatonia. Hefyd ymunodd Danny Morrison i’r band fel y pedwerydd drymar!
Dwy flynedd yn ddiweddarach mae’r band newydd orffen eu 3ydd albym sef ‘Plan B’.