Mae hunangofiant Edward Morus Jones yn gofnod cynnes a hiraethus o fywyd sydd wedi ei fyw i'r eithaf. Aiff â ni o Feirionnydd wledig, Gymraeg i'r cymoedd ôl-ddiwydiannol yng nghyfnod Aberfan, ac o Fôn Mam Cymru i Philadelphia yn yr Unol Daleithiau. Ar hyd y daith hon, gwnaeth waith arloesol wrth ehangu'r defnydd o'r Gymraeg ymysg dysgwyr yr iaith.