Cyfansoddodd Ellis Roberts - Elis y Cowper - o Landdoged ger Llanrwst fwy o faledi na'r un awdur arall a oedd yn weithgar yn ystod y ddeunawfed ganrif. Dros gyfnod o ddeugain mlynedd a mwy lluniodd ryw drichant o gerddi sydd, yn ffodus, wedi goroesi hyd at ein dyddiau ni.