Mae pobl wedi bod yn croesi'r culfor rhwng tir mawr Gwynedd ac Ynys Môn ers canrifoedd bellach, ar droed, mewn cychod, fferiau, trenau a cherbydau. Mae'r gyfrol hon yn olrhain hanes y croesi o'r cyfnodau cynharaf i'r presennol ac yn dathlu cyfraniad y rhai hynny a wnaeth y daith fer yn bosibl. O'r fferiau cyntaf i'r pontydd modern, dyma ddathliad o'r cwlwm clos rhwng Môn a'r tir.