Ar un adeg, y 'Dyrnwr Mawr' oedd y peiriant amaethyddol mwyaf ei faint a'i gymhlethdod ar y fferm, ac mae'r gyfrol hon yn adrodd hanes y peiriant a'r diwrnod dyrnu. Cynhwysir gwybodaeth dechnegol ac amaethyddol am y peiriant, ynghyd â manylion am natur gymdeithasol y gweithgaredd pwysig a chofiadwy hwn. 45 llun du-a-gwyn.