Gŵr o ogledd Ceredigion yw Tegwyn Jones ac mae'n tynnu llawer oddi ar gyfoeth y dafodiaith a'r geiriau sy'n rhan o'i gynhysgaeth. Wrth ei waith ar Eiriadur Prifysgol Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol a thrwy ei ddiddordeb ysol ei hun, mae'n medru cydio mewn ambell air ac ambell ddywediad a'u cysylltu â'u brodyr a'u chwiorydd ar draws Cymru, gan greu cadwyn ddifyr o ddefnydd.