Yn ystod y Dirwasgiad, bu ymdrech arwrol i geisio lliniaru peth ar y diweithdra enbyd oedd yn ardaloedd diwydiannol Cymru. Bryn-mawr yng Ngwent oedd y dref yr effeithiwyd arni waethaf, ac yma yn 1928 daeth grŵp o Grynwyr ifainc at ei gilydd i geisio gwella'r sefyllfa. Yr oedd Arbrawf Bryn-mawr yn ymgais orchestol a chwyldroadol i newid natur cymdeithas.