Yn y gyfrol hon, sonnir am greiriau dau gartref tra gwahanol. Ar yr aelwyd draddodiadol, mae'r fam yn gwau sanau a'r tad yn cael mwgyn wrth ochr y lle tân. Mae'r ffigyrau Swydd Stafford ar y silff uwchben, y ffyn a'r rholbren gwydr yn eu gwarchod ac ambell garden angladd ar y wal i gadw'r cof yn fyw.