Cyfrol sy'n adrodd hanes trychineb a ddigwyddodd ym mhentref Cwm-y-glo, rhwng Llanrug a Llanberis, ym mis Mehefin 1869. Ni wyddys beth barodd i'r llwyth o bum tunnell ffrwydro wrth i ddau gertiwr deithio wedi seibiant yn y dafarn - ai damwain, neu esgeulusdod y certwyr, neu a fu rhywun yn ymyrryd â'r llwyth. Clywyd y ffrwydriad o bell, a chafodd gryn sylw yn y wasg.