Casgliad lliwgar ac afieithus o ddywediadau tafodieithol cyfoethog a gwreiddiol canol Ceredigion, yn cynnwys geiriau unigol, priod-ddulliau ac ymadroddion yn darlunio bywyd bob-dydd yng nghefn gwlad, y tywydd a byd y ceffyl, rhigymau a phosau ynghyd ag ambell stori a cherdd yn adlewyrchu'r dafodiaith. 9 ffotograff du-a-gwyn, 7 llun pin-ac-inc ac 1 map.