Mae Llyfr Lliwio Hud - Ar y Fferm yn llyfr gweithgaredd difyr i blant ifanc. Mae’r plentyn yn gallu ychwanegu lliw at wahanol luniau fferm trwy wlychu brwsh paent a phaentio dros y tudalennau. Does dim angen paent. Ar ôl eu paentio, mae'r lliw yn diflannu'n hudol fel y gall y plentyn ailwneud y gweithgaredd dro ar ôl tro.