Yn nofel newydd Alun Jones, awdur un o nofelau mwyaf poblogaidd y Gymraeg, Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr , gwelwn yr awdur yn troi ei sylw at gymeriadau sy'n ceisio cadw'u callineb yng nghanol rhyfel parhaus rhwng dwy fyddin. Mae'r nofel afaelgar a bywiog hon yn dilyn hynt a helynt pedwar milwr ifanc, Eyolf, Tarje, Linus a Jalo wrth iddynt ddisgyn i ddwylo'r gelyn.