Llyfr stori gynnes gyda thestun sy'n odli ac sydd hefyd â neges arbennig i'w dysgu. Y prif gymeriad yw llygoden fach sy'n ceisio ennill ei phlwyf yng nghanol yr anifeiliaid mawr! Ar ddiwedd y daith mae'n darganfod ei llais ei hun ac yn dysgu bod gan bob anifail, boed fawr neu fach, ran bwysig i'w chwarae yn y byd.