Sut fyddai Caradog Prichard yn ymdopi â cholli ei gof ar ôl ymddeol? Beth ddigwyddodd i Evan Roberts ar ôl i fwrlwm y Diwygiad ddod i ben? Beth allai fod wedi ysbrydoli Kate Roberts i feddwl am yr iaith Gymraeg fel ystlum mewn cerdd i'r Faner ? Dyma rai o'r cwestiynau y mae dychymyg gogleisiol Mihangel Morgan yn ceisio'u hateb yn y casgliad hwn o straeon dyfeisgar.