Cyfle i fwynhau odli gyda Rapsgaliwn! Mae Rapsgaliwn wrth ei fodd yn odli gyda'i ffrindiau. Mae'r jig-so lliwgar hwn yn cynnwys 71 o ddarnau cadarn ar gyfer plant o bob oed. Mae rapiwr gorau'r byd wrth ei fodd gyda'r jig-so newydd! Pos addysgol fydd yn siwr o blesio'r dilynwyr ifanc - anrheg ddelfrydol!