Pwy fydd y tlysaf oll yn jambori'r jyngl? Hipo? Llewpart? Llew? Sebra? Mae creaduriaid y jyngl i gyd yn trio newid eu hunain yn y llyfr hardd hwn, sy'n llawn lliw ac antur anifeilaidd ddoniol. Ond mae gan Pryfyn syrpreis - yn fuan iawn mae'r anifeiliad yn dod i ddeall eu bod nhw'n hyfryd yn union fel ydyn nhw, ac mai caredigrwydd yw'r peth harddaf oll.