Mae Huwcyn Hud yn gweithio'n galed yn Ysgol Hud a Lledrith. Mae'n ymarfer bwrw swynion, hyfforddi llyffantod a hedfan ar ysgub. Ond pan gaiff ei enwebu ar gyfer gwobr Dewin Ifanc y Flwyddyn, mae'n sylweddoli y bydd rhaid iddo gystadlu yn erbyn Llywarch Llwyblygwr, y ffefryn i ennill.