Nofel boblogaidd wedi'i seilio ar gyfrol enwog Charles Dickens A Christmas Carol , ond wedi'i diweddaru i Gymru heddiw ac yn gwbl Gymreig ei chefndir a'i chynnwys. Mae'n stori Nadoligaidd ei naws i adrodd hanes Eben 'Ben' Parri, cyn ymgyrchydd iaith sydd wedi dringo ym mywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru ers dyddiau protestiadau ei ieuenctid.