Dyma gyfrol gyfarch i un o feddylwyr praffaf Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf. Yn athro ac awdur, mae E. Gwynn Matthews wedi cyhoeddi'n sylweddol ar amrywiol bynciau, o hanes lleol i athroniaeth. Yn ysbryd diddordebau eang ac eangfrydig Gwynn, dyma gyfres o erthyglau difyr a gogleisiol gan rai o'n deallusion cyfoes mwyaf blaenllaw a beiddgar, gyda thrafodaethau ar amrywiaeth o bynciau.