Mae'r pecyn hwn o gardiau ar gyfer negeseuon personol yn dangos llun eiconig Sue Shields o'r gerdd 'Hon' gan T. H. Parry-Williams. Argraffwyd y gerdd gyflawn y tu mewn i bob cerdyn, a cheir nodiadau am fywyd a gwaith y bardd ar y cefn. Mae 5 cerdyn gydag amlenni ym mhob pecyn. Maint pob cerdyn yw 157 x 157mm.