Cofnod gwerthfawr o fywyd ar fferm yng nghefn gwlad Sir Feirionnydd yn nyddiau cynnar yr ugeinfed ganrif, gan un a oedd yno. Magwyd Goronwy Owen (1901-1994) ar fferm Bryn Moel, Llanycil, ger y Bala. Yn ei arddegau bu'n was ffarm i'w dad, George Monks Owen, cyn mynd yn ei flaen i ddilyn gyrfa yn yr Eglwys. Wedi iddo ymddeol, aeth ati i gofnodi rhai o'i atgofion am fywyd ar y fferm - a dyma nhw!