Llyfr poced hwylus yn cyflwyno golygiad newydd Dafydd Glyn Jones o 'Dewis Blaenoriaid', un o straeon dychanol cynharaf Daniel Owen (1836-95). Yn ôl Saunders Lewis, 'hi yw'r peth perffeithiaf a sgrifennodd ef o gwbl', ac y mae'n cynnig rhagflas o rai o themâu ei weithiau helaethach, enwocach.