Cyfres o ugain cerdd wedi eu cyflwyno i siaradwyr olaf gwahanol ieithoedd ar draws y byd. Trwy gyfrwng dychymyg y bardd clywir lleisiau'r siaradwyr hyn unwaith eto ac, yn ddyfeisgar, eu safbwyntiau dychmygol tuag at eu hieithoedd diflanedig.