Cyhoeddodd y diweddar Glyn Tegai Hughes nifer o ysgrifau yn ymwneud â gwaith William Williams Pantycelyn dros y blynyddoedd. Gan fod eleni (2017) yn nodi 300 mlwyddiant geni William Williams, a bod Glyn Tegai Hughes newydd farw, mae'n briodol casglu'r ysgrifau hyn ynghyd yn deyrnged i'r awdur ac yn ddathliad o waith William Williams.