Yn y clwb nos mae hi'n cyfarfod â Shane, dyn golygus, llawn dirgelwch sy'n gwybod rhywbeth am ei gorffennol ... cyfrinach allai chwalu ei theulu. Ond mae Rachel yn awchu i gael y gwirionedd ganddo ...
"Mae'r ferch 'ma'n gallu sgwennu!" – Bethan Gwanas
"Dengys yr awdur ddawn i adrodd stori'n afaelgar, a hynny mewn iaith syml a di-lol." – Beti Jones, adolygiad o Mudferwi
ar gwales.com