Bu pysgota yn fwy na diwydiant ar Benrhyn Llŷn ers canrifoedd - bu'n ffordd o fyw. Fesul un, mae'r pysgotwyr hynny fu'n ennill eu bara menyn o'r môr yn diflannu, ac yn eu sgîl yr arferion, y crefftau a'r eirfa sy'n unigryw i'r ardal odidog hon. Diflannu hefyd mae enwau'r hen bysgotwyr ar bob cilfach a chraig o amgylch arfordir y penrhyn.