Oes, mae darnau o hanes mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd – ond maen nhw yma hefyd, mewn hen luniau, enwau lleoedd, ar fapiau ac mewn olion hen adeiladau ar lechwedd mynydd neu ar lan y môr. Bydd y llyfr hwn yn eich helpu i wybod ac i ddeall yr hanes, lle bynnag ydych chi yng Nghymru. Bydd yn sbardun ichi chwilio am ragor o ddarnau o’n gorffennol.
Pwy oedd y bobl gyntaf oll i fyw yng Nghymru? Pam fod Glyndŵr mor bwysig i’r Cymry? Beth oedd rhan Cymru yn y fasnach gaethweision? Pa ddylanwad gafodd y môr ar ein hanes? Dewch i chwilio am rai o’r atebion!