Llanc ifanc o'r cymoedd yw Byrti, sy'n penderfynu ymuno â'r fyddin yn hytrach na wynebu oes hir yn y pyllau glo. Caiff ei anfon i wersyll hyfforddi yn y Rhyl, tref sydd fel nefoedd iddo - ond nid nefoedd sy'n ei ddisgwyl ar faes y gad yn Ffrainc. Nofel yn seiliedig ar hanes teulu'r awdur yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.