Mae Trystan a'i gyfaill newydd, Daniel, ill dau wedi cwblhau eu harholiadau ysgol ac mae haf crasboeth 1976 yn ymestyn o'u blaen yn llawn posibiliadau cyffrous. Amser ardderchog? Ie, i gychwyn, ond caiff Trystan ei swyno gan lygaid mawr Jasmin mewn cymuned newydd o hipis ar gyrion y cwm, a'i gyflwyno i ddiet o fadarch hud sych a chariad.