Dyma gyfrol hylaw a fydd o ddefnydd mawr ar gyfer canu mawl adeg y Nadolig. Ond nid cyfrol ar gyfer y Nadolig yn unig mo hon: mae'n un y tâl myfyrio ynddi ar hyd y flwyddyn. Mae llawer hen ffefryn ymhlith y 70 eitem, ond mae yma hefyd rai na fu mewn casgliad erioed o'r blaen. Cynhwysir mynegai i awduron a chyfieithwyr a rhestr o donau addas.