Cyfrol o 14 o ysgrifau newydd gan rai o ysgolheigion a beirniaid llenyddol mwyaf blaenllaw Cymru. Cynhwysir astudiaethau ar bynciau sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil eang yr Athro Gwyn Thomas. Ceir hefyd ysgrifau sy'n canolbwyntio ar waith Gwyn Thomas ei hun, yn ogystal ag ysgrif deyrnged iddo a llyfryddiaeth gyflawn o'i weithiau.