Yn dilyn cyfnod cythryblus yng Nghwm y Glo, mae Dela Arthur â'i hanian chwilfrydig am gymryd hoe i wella a chryfhau. Ond buan iawn y daw gorchwyl newydd iddi hi, mewn tref glan môr y tro hwn. A fydd aer y môr yn rhoi modd i fyw iddi hi, neu yn ei mygu'n llwyr? Mae dwy farwolaeth yn digwydd mewn byr amser yn Abergorwel, ac mae Dela am wybod a oes cysylltiad rhyngddynt.