Awn yn ôl i’r goedwig i gwrdd â chymeriadau adnabyddus stori Taclus/Tidy , ond y tro hwn, y piod yw’r prif gymeriadau. Mae’r llyfr yn dangos pa mor hawdd y cawn ein hudo gan eiddo, cyn lleied o bethau sydd angen arnom go iawn, a sut mae ailgylchu yr hyn y gallwn fyw hebddo. Addasiad Cymraeg o stori amserol, gyda darluniau moethus, gan enillydd dwy Fedal CILIP Kate Greenaway.