Mae'r gyfrol hon yn cynnig arolwg hygyrch o hanes yr Hen Ogledd (de'r Alban a gogledd Lloegr) o'r cyfnod Mesolithig hyd at Oes y Llychlynwyr. Dangosir fod dylanwad y Cymry fu'n byw yno ganrifoedd yn �l yn parhau hyd heddiw yng ngenynnau'r boblogaeth, gyda gwaddol ieithyddol a diwylliannol y cyfnod Cymreig i'w weld hefyd mewn ambell air yn y dafodiaith ac mewn llu o enwau lleoedd.