Argraffiad newydd o gasgliad o farddoniaeth ac ysgrifau telynegol a ffraeth y diweddar Archdderwydd Dic Jones, un o gynganeddwyr mwyaf poblogaidd y genedl. Mae'r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o gywyddau, englynion a cherddi yn y mesur rhydd, ynghyd â dau ddwsin o ysgrifau. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2001.