Nofelig aeddfed am deulu Gain gyda pherthynas a gwreiddiau'n llinyn arian drwyddi. Er bod y nofelig fel pe bai'n ymwneud â mân genfigen a helyntion plant cyfoes Arfon a'i gilydd, y mae hi hefyd yn adrodd straeon am deulu Gain ganrif a mwy yn ôl, a phwysigrwydd y straeon hynny iddi heddiw.