Dyma gasgliad o gerddi sy'n dweud hanes taith dau fardd, a dwy ffrind, gyda'i gilydd ar draws paith Patagonia, taith y mil milltiroedd. O Buenos Aires yn y dwyrain i Bariloche yn y gorllewin, mae Mererid Hopwood a Karen Owen yn dilyn ôl traed y fintai gyntaf honno a laniodd ym Mhorth Madryn yn 1865 a sefydlu'r Wladfa.