Casgliad o fyfyrdodau gwreiddiol ar 100 o adnodau a dywediadau mwyaf cyfarwydd Iesu. Fe'u tynnir o'r Efengyl, yr Actau ac o Lyfr y Datguddiad. Rhoddir ychydig o gefndir i bob adnod ac esboniad o'r cyd-destun. Dyfynnir o'r Beibl Cymraeg Diwygiedig Newydd oni nodir yn wahanol.