Casgliad newydd cyffrous o ganeuon gwerin traddodiadol, i gyd wedi'u dethol o ffrwyth ymchwil Meredydd Evans a Phyllis Kinney. Dyma brosiect arbennig i ddathlu cyfraniad Merêd a Phyllis i fyd y gân werin yng Nghymru. Cyhoeddir y caneuon mewn llyfr ac ar gryno-ddisg fel teyrnged i'r ddau gan brif artistiaid canu gwerin heddiw, gan droi hen berlau yn ganu byw unwaith eto.