'Mae Ffred a'i ffwlbart yn ffrindiau gorau ond digwyddodd rhywbeth od un bore wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti - ar fy ngwir! Dyma'r stori...' Dewch i gwrdd â Ffred a'i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus. Stori llawn hwyl gyda thestun sy'n odli yn seiliedig ar un o'n dywediadau Cymraeg mwyaf od!