Mae'r nofel feiddgar hon yn troi o gylch y wraig weddw Ceridwen Morgan, a glymwyd gan ei gŵr i fyw ar ei gyfoeth, i beidio ag ailbriodi na gwneud dim yn gyhoeddus. Ond pan fo Ceridwen yn syrthio mewn cariad â'r bardd ifanc Alfan Ellis daw'r tensiynnau i'r golwg. Cyhoeddwyd gyntaf yn Rhagfyr 1955.