Mae'r gyfrol hon yn gynnyrch adnabyddiaeth ddofn o waith Kate Roberts gan un a oedd hefyd wedi darllen yn helaeth am ei gwaith ac a oedd yn hyddysg ym maes beirniadaeth lenyddol ynghyd ag astudiaethau addysgol. Llyfr academaidd, ond yn un sy'n darllen yn rhwydd gan fod yr awdur yn gyfathrebwr naturiol a dawnus.